Jump to content

Nodyn Geocache Cymraeg


cadimali06

Recommended Posts

SAFLE GEOCACHE – DARLLENWCH HWN

Llongyfarchiadau! Rydych chi wedi ffeindio fe! Ar hap efallai.

 

Beth yw’r flwch hon tybed? A beth yffach mae hi’n gwneud yma gyda’r stwff i gyd ynddi?

 

Mae’r flwch hon yn rhan o gêm byd-eang ar gyfer defnyddwyr GPS (Global Positioning System) o’r enw Geocaching. Mae’r gêm yn cynnwys defnyddiwr sy’n cuddio “trysor” (y flwch hon a’i chynnwys) a’i chyhoeddi ei safle penodol er mwyn i ddefnyddwyr eraill i’w darganfod ar “helfa drysor”. Yr unig reolau yw’r rhein: os rydych chi’n mynd â rhywbeth o’r cache, rhaid gadael rhywbeth yn ei le ac mae’n rhaid logio’ch ymweliad yn y llyfr log. Gobeithio bod y person wnaeth guddio’r flwch hon wedi dewis safle dda sy’ ddim yn rhy hawdd i’w darganfod gan bobl sy’ ddim yn chwarae’r gêm. Ond weithiau mae safle dda yn safle ddrwg, felly...

 

OS RYDYCH CHI WEDI FFEINDIO HON AR HAP:

 

Gwych! Beth am chwarae’r gêm? Ond gofynnwn i chi wneud hyn:

• Peidiwch â symud y flwch neu ei malu hi. Y drysor go iawn yw darganfod y flwch a rhannu eich meddyliau am eich taith gyda phawb arall sydd yn ei darganfod.

• Os y mynnwch, ewch â rhywbeth ond gadael rhywbeth yn ei le a logio’ch ymweliad.

• Os bosib, gadewch i ni wybod sut ddaethoch chi o hyd iddi wrth fynd at y wefan isod.

 

Mae’r gêm Geocaching ar agor i bawb gyda GPS a’r awch am antur. Mae safleoedd fel hyn ledled y byd. Hafan y gêm yw’r wefan isod. Ewch ati gyda’ch sylwadau ac i wybod rhagor amdani.

 

http://www.geocaching.com

Os mae’r flwch hon angen cael ei symud am unrhyw reswm, gadewch i ni wybod. Ymddiheurwn a byddwn yn hapus i’w symud.

Link to comment

Join the conversation

You can post now and register later. If you have an account, sign in now to post with your account.
Note: Your post will require moderator approval before it will be visible.

Guest
Reply to this topic...

×   Pasted as rich text.   Paste as plain text instead

  Only 75 emoji are allowed.

×   Your link has been automatically embedded.   Display as a link instead

×   Your previous content has been restored.   Clear editor

×   You cannot paste images directly. Upload or insert images from URL.

Loading...
×
×
  • Create New...